Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan
Bydd Dr Cheryl Morgan o Archifau Lleol Rhaglan yn rhoi sgwrs yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 am brosiectau digidol diweddaraf Grŵp Hanes Lleol Rhaglan a’r Cylch. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:
•Prosiect Adrodd Straeon Digidol - archif ddigidol o gofnodion lleol a chyfryngau digidol yn http://www.raglan-history.org.uk/: gweithio gyda grwpiau ieuenctid i ddigido a chatalogio 800 a rhagor o hen ffotograffau, mapiau, ewyllysiau a dogfennau eraill, a chreu straeon digidol

•Prosiect Ffyrdd Lleol Rhaglan - yn cysylltu Plant Ysgol Gynradd Rhaglan
â phobl a fu’n byw yn yr ardal ers amser maith. Cafodd CD ei gynhyrchu, yn
cynnwys hen ffotograffau a chyfraniadau fideo gan drigolion oedrannus, i
ddangos y newidiadau ym Mhentref Rhaglan yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ers dwy
flynedd bellach, mae Ditectifs Hanes Rhaglan, clwb ar ôl ysgol, wedi bod yn
dysgu hanes drwy astudio a chofnodi’r beddau ym Mynwent Eglwys Sant Cadog.
•Gwefan Wiki
Domesday Pentref Rhaglan, ystorfa ar gyfer cofnodion hanesyddol ac atgofion
lleol. Ers ei sefydlu, mae 30,000 o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld â’r
wefan.
•Y prosiect Tirnodau
Treftadaeth presennol sy’n seiliedig ar godau QR
No comments:
Post a Comment