Tuesday 18 December 2012


Prosiect digiDo
 
Bydd Dr Ted Jones o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cyflwyniad ar y Prosiect digiDo yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Nod y rhaglen Theatr y Cof yw digido cymaint o ddeunydd printiedig yng Nghymru ag y bo modd a’i roi ar y rhyngrwyd fel y gellir ei gyrchu am ddim, a thrwy hynny gryfhau presenoldeb Cymru a’r Cymry ar y llwyfan byd-eang.

Rhai mentrau allweddol hyd yn hyn yw:

Y BywgraffiadurAr-lein sy’n cynnwys oddeutu 5,000 o fywgraffiadau am Gymry enwog a fu farw cyn 1 Ionawr 1971.

CylchgronauCymru Ar-lein lle gellir cyrchu detholiad o 50 o gyfnodolion modern a 300 o deitlau hanesyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

BaladauCymru Ar-lein sy’n cynnwys tua 4,000 o faladau wedi’u digido, yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg gan mwyaf.

PapurauNewydd Cymru Ar-lein, sef casgliad cyfan Llyfrgell Genedlaethol Cymru o bapurau newydd Cymreig cyn 1910: adnodd gwych o wybodaeth bob dydd yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys mwy nag 1 filiwn o dudalennau a 200 o deitlau papur newydd o bob rhan o Gymru.

Mae casgliadau’r Llyfrgell o lawysgrifau, ewyllysiau, archifau, mapiau, paentiadau, ffotograffau a lluniadau wedi cael eu digido hefyd.

Bydd Dr Jones yn siarad am y broses sganio, y system adnabod nodau gweledol (OCR), metadata, rheoli data a lledaenu data. I gael y crynodeb llawn ewch i’n tudalen siaradwyr.

No comments:

Post a Comment