Monday 28 January 2013

Sylwadu

Diwrnod 1 Dydd Mercher yr 20fed o Chwefror

SESIWN GYNHADLEDD UN

09.00 Cofrestru: Te a choffi wrth gyrraedd Neuadd y Sir

10.15 Symud i Theatr Savoy

10.30 Croeso: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

10.40 Anerchiad agoriadol: Justin Albert (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)


Cadeirydd: Dr David Gwyn (Govannon Consultancy)

11.00 Technolegau Newydd a Dehongli: Chwarae gyda Thân a Dŵr: David Penberthy a Kathryn Roberts (Cadw)

11.30 Prosiect Monmouthpedia: Mike Booth (Cyngor Sir Fynwy)

12.00 Diogelu Digidol – Gwaith Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: Gary Tuson (Archifdy Gwent)

12:30 Y Zooniverse – gweithio gyda 750,000 o wirfoddolwyr: Chris Lintott (Zooniverse; Prifysgol Rhydychen)

13.00 Cinio


SESIYNAU CYNHADLEDD CYFOCHROG

Setiau Data Digidol – Papurau.

Cadeirydd: Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

14.00 Ffonau clyfar – ai dyma ddyfodol dehongli treftadaeth?: Andrew Kerry-Bedell (ITiC a Mobi-Scan)

14.20 Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan: Dr Cheryl Morgan (Archifau Lleol Rhaglan)

14.40 Dinas goll Clonmacnoise: Gavin Duffy (RealSIM)

15.00 Sut i adeiladu atgynhyrchydd Star Trek am£500 (a sut y gellir ei ddefnyddio mewn addysg dreftadaeth): John Cummings (Ymgynghorydd Annibynnol)

15:20 Cwestiynau


Seminarau.

Cadeirydd: Emily La Trobe-Bateman (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd)

14.00 Sialensiau archifo digidol; Gareth Edwards (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) a Delweddu Archaeoleg Gwynedd: Astudiaeth achos ar gyfer ymdrin â data digidol: Sian James (Prifysgol Bangor)

14.40 Setiau Data Digidol Mawr: problemau prosesu a storio: Michael Charno (Gwasanaethau Data Archaeolegol) a Dr Pete Bunting (Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth)

15.30 Te a choffi

SESIWN ANGHYNHADLEDD

Cadeiryddion: Tom Pert,

16.00

16.15

16:30

16:45


17:00 Ffotograffiaeth Gigapicsel: Greg Downing (Stiwdios XRes) (ffrydio byw o Galiffornia)


Cinio cynhadledd gyda’r nos, i’r rheiny sy’n talu i fynychu


Diwrnod 2 Dydd Iau yr 21ain o Chwefror

SESIYNAU HYFFORDDI A GWEITHDAI

9.00 Te a choffi wrth gyrraedd

9.30 Gweithdai

Gweithdai 90 munud

Cyflwyniad i LiDAR i ddechreuwyr – Dr Oliver Davis (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Technoleg ar y Llwybr: Monmouthpedia

STELLAR: Technolegau Semantig a Data Cysylltiedig – Ceri Binding (Prifysgol Morgannwg)

Awyrennau Di-beilot: Korec


2 weithdy 40 munud

Sganio laser daearol: Paul Burrows (Leica Geosystems)

Cronfa Dreftadaeth y Loteri: Stephen Barlow (CDL)

Casgliad y Werin: Tom Pert a Helen Rowe (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Hazel James (CyMAL)

Llwybrau Awdio: Dan Boys

11.00 Te a choffi

11.25 Gadael i fynd i’r sesiynau cynhadledd cyfochrog


SESIYNAU CYNHADLEDD CYFOCHROG

Papurau.

Cadeirydd: Scott Lloyd (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

11.30 Y Prosiect DigiDo: Dr Edward Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

11.50 Defnyddio papurau newydd wedi’u digido i atgyfnerthu’r cofnod archaeolegol: Dr Stephen Briggs (Ymchwilydd Annibynnol)

12.10 Drwy Lygad Robot – Sut y gall awtomeiddio ddylanwadu ar ein canfyddiad: Marek Ososinski (Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth)

12:30 Sganio Laser 3D – Modelu Gwybodaeth am Adeiladau (BIM) a thu hwnt: Peter Folwell (Plowman Craven)

12:50 Cwestiynau

NEU

Seminarau.

Cadeirydd: Tom Pert (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

11.30 Treftadaeth ar Droed: Andrew Kerry-Bedell (KB Consultants), Angharad Wynne (Angharad Wynne Consultants)

12.10 Adfywio; Cymunedau, sgiliau a thwristiaeth: John Harrison (Rhondda Cynon Taf), Samantha Jones (Y Prosiect Cysylltiadau Metel) a Deri Jones (Deri Jones Associates)


13.00 Cinio

SESIWN GYNHADLEDD DAU

Cadeirydd:

14.00 Treftadaeth Ddigidol, Twristiaeth ac Ymchwil Hanesyddol: Matt Chilcott (Grŵp Budd Cymunedol CMC2) a Ray Howell (Canolfan De Cymru ar gyfer Ymchwil Hanesyddol a Rhyngddisgyblaethol)

14.30 Prosiect Bannockburn: Chris Walker (Bright White Ltd)

15.00 Delweddu Arforol: Cofnodi llongddrylliadau mewn 3D: Mike Postons (3Deep Media)

15.30 Crynhoi: Dr David Gwyn (Govannon Consultancy)

15.50 Gorffen

Monday 21 January 2013


Ymdeimlad o Wreiddiau Rhaglan

Bydd Dr Cheryl Morgan o Archifau Lleol Rhaglan yn rhoi sgwrs yng Nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013 am brosiectau digidol diweddaraf Grŵp Hanes Lleol Rhaglan a’r Cylch. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:

•Prosiect Adrodd Straeon Digidol - archif ddigidol o gofnodion lleol a chyfryngau digidol yn http://www.raglan-history.org.uk/: gweithio gyda grwpiau ieuenctid i ddigido a chatalogio 800 a rhagor o hen ffotograffau, mapiau, ewyllysiau a dogfennau eraill, a chreu straeon digidol

•Prosiect Ffyrdd Lleol Rhaglan - yn cysylltu Plant Ysgol Gynradd Rhaglan â phobl a fu’n byw yn yr ardal ers amser maith. Cafodd CD ei gynhyrchu, yn cynnwys hen ffotograffau a chyfraniadau fideo gan drigolion oedrannus, i ddangos y newidiadau ym Mhentref Rhaglan yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ers dwy flynedd bellach, mae Ditectifs Hanes Rhaglan, clwb ar ôl ysgol, wedi bod yn dysgu hanes drwy astudio a chofnodi’r beddau ym Mynwent Eglwys Sant Cadog.

•Gwefan Wiki Domesday Pentref Rhaglan, ystorfa ar gyfer cofnodion hanesyddol ac atgofion lleol.  Ers ei sefydlu, mae 30,000 o bobl o bedwar ban byd wedi ymweld â’r wefan.


•Y prosiect Tirnodau Treftadaeth presennol sy’n seiliedig ar godau QR

I gael manylion pellach, darllenwch y crynodeb llawn.


Tuesday 18 December 2012


Prosiect digiDo
 
Bydd Dr Ted Jones o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cyflwyniad ar y Prosiect digiDo yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Nod y rhaglen Theatr y Cof yw digido cymaint o ddeunydd printiedig yng Nghymru ag y bo modd a’i roi ar y rhyngrwyd fel y gellir ei gyrchu am ddim, a thrwy hynny gryfhau presenoldeb Cymru a’r Cymry ar y llwyfan byd-eang.

Rhai mentrau allweddol hyd yn hyn yw:

Y BywgraffiadurAr-lein sy’n cynnwys oddeutu 5,000 o fywgraffiadau am Gymry enwog a fu farw cyn 1 Ionawr 1971.

CylchgronauCymru Ar-lein lle gellir cyrchu detholiad o 50 o gyfnodolion modern a 300 o deitlau hanesyddol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

BaladauCymru Ar-lein sy’n cynnwys tua 4,000 o faladau wedi’u digido, yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg gan mwyaf.

PapurauNewydd Cymru Ar-lein, sef casgliad cyfan Llyfrgell Genedlaethol Cymru o bapurau newydd Cymreig cyn 1910: adnodd gwych o wybodaeth bob dydd yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys mwy nag 1 filiwn o dudalennau a 200 o deitlau papur newydd o bob rhan o Gymru.

Mae casgliadau’r Llyfrgell o lawysgrifau, ewyllysiau, archifau, mapiau, paentiadau, ffotograffau a lluniadau wedi cael eu digido hefyd.

Bydd Dr Jones yn siarad am y broses sganio, y system adnabod nodau gweledol (OCR), metadata, rheoli data a lledaenu data. I gael y crynodeb llawn ewch i’n tudalen siaradwyr.

Wednesday 12 December 2012


Paratowch ar gyfer y Frwydr - Canolfan Brwydr Bannockburn

 

Mae’n dda gennym gyhoeddi y bydd Chris Walker o Bright White Ltd yn rhoi cyflwyniad ar y datblygiadau diweddaraf yng Nghanolfan Brwydr Bannockburn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Mae safleoedd brwydrau yn gyfoethog o ran hanes ond yn dlawd o ran arteffactau, felly er mwyn adrodd hanes y frwydr mae Bright White, ar y cyd â’r Stiwdio Dylunio Digidol yn Ysgol Gelf Glasgow, yn creu profiad rhyngweithiol llwyr ddigidol a hanesyddol gywir hollol unigryw, sef yr ardal Paratowch ar gyfer y Frwydr. Bydd y crynodeb ar gael yn http://digitalpast2013.blogspot.co.uk/p/speakers_9.html cyn bo hir.



Ffonau clyfar – ai dyma ddyfodol dehongli treftadaeth?

 

Bydd Andrew Kerry-Bedell o KB consultants ac IT's in Conservation yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2013 i siarad am ddefnyddio technoleg y ffôn clyfar i ddarparu dehongli symudol ar gyfer cynulleidfaoedd ar safleoedd treftadaeth. Pwyntiau allweddol papur Andrew fydd:
 

· Chwyldro’r ffôn clyfar a thueddiadau ymysg defnyddwyr

 
· Codau QR, Tagiau NFC, Realiti Estynedig a dehongli symudol arall

 
· Ymchwil i ddehongli symudol - profiad Llwybr Cenedlaethol y South Downs

 
· Gwneud i ddehongli wedi’i seilio ar y ffôn symudol weithio i bawb - canllawiau ymarferol

 
· Trafodaeth - gwersi a ddysgwyd o brosiectau diweddar a chwestiynau

 


Bydd crynodeb llawn ar gael cyn bo hir ar ein tudalen Siaradwyr.

Delweddu Arforol: Prosiect Scapa Flow

Gallwn gadarnhau mai Mike Postons, cyfarwyddwr
3Deep Media, fydd un o’r prif siaradwyr yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Bydd Mike yn siarad am ddatblygiadau ym maes cofnodi a modelu safleoedd treftadaeth tanddwr, a sut y gall y gwaith hwn gael ei ddelweddu ar gyfer y cyhoedd. Un prosiect y rhoddir sylw arbennig iddo yw prosiect Safle Llongddrylliadau Hanesyddol Scapa Flow sy’n dangos sut y gall mapio a modelu llongddrylliadau hanesyddol gael ei ddefnyddio i ysgogi diddordeb y cyhoedd yn ein treftadaeth arforol.

 

Thursday 6 December 2012


Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn eich gwahodd i fynychu cynhadledd yn Neuadd y Sir, Trefynwy.

 Gorffennol Digidol 2013

Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan

20fed a 21ain Chwefror 2013

Neuadd y Sir, Trefynwy.

MAE COFRESTRU NAWR AR AGOR

 
Y themâu eleni yw ‘Setiau Data Digidol: Trin, Lledaenu ac Archifo’ a ‘Twristiaeth Treftadaeth’.

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae:

Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru – Anerchiad Agoriadol.
David Penburthy a Dr Kate Roberts, Cadw – Teitl i'w gadarnhau
Mike Postons, 3Deep Media – Delweddu Arforol: prosiect Scapa Flow.
Matt Chilcott (Grŵp Budd Cymunedol CMC²) a Ray Howell (Canolfan De Cymru ar gyfer Ymchwil Hanesyddol a Rhyngddisgyblaethol) –  Treftadaeth Ddigidol, Twristiaeth ac Ymchwil Hanesyddol.
Andrew Kerry Bedell (Ymgynghorwyr KB) - Ffonau Clyfar - ai dyma ddyfodol dehongli treftadaeth?
Dr Erik Champion (Prifysgol Aarhus) – A all y gorffennol ac a all hanes gael eu rhannu?
Gary Tuson (Archifdy Gwent) – Diogelu Digidol – Gwaith Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
Greg Downing (Stiwdios XRes) – Ffotograffiaeth gigapicsel.

Cost cofrestru am y ddau ddiwrnod yw £55, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod.

Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar