Paratowch ar gyfer
y Frwydr - Canolfan Brwydr Bannockburn
Mae’n dda gennym gyhoeddi y bydd Chris Walker o Bright White Ltd yn rhoi cyflwyniad ar y datblygiadau diweddaraf yng Nghanolfan Brwydr Bannockburn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2013. Mae safleoedd brwydrau yn gyfoethog o ran hanes ond yn dlawd o ran arteffactau, felly er mwyn adrodd hanes y frwydr mae Bright White, ar y cyd â’r Stiwdio Dylunio Digidol yn Ysgol Gelf Glasgow, yn creu profiad rhyngweithiol llwyr ddigidol a hanesyddol gywir hollol unigryw, sef yr ardal Paratowch ar gyfer y Frwydr. Bydd y crynodeb ar gael yn http://digitalpast2013.blogspot.co.uk/p/speakers_9.html cyn bo hir.
No comments:
Post a Comment