Wednesday 12 December 2012


Ffonau clyfar – ai dyma ddyfodol dehongli treftadaeth?

 

Bydd Andrew Kerry-Bedell o KB consultants ac IT's in Conservation yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2013 i siarad am ddefnyddio technoleg y ffôn clyfar i ddarparu dehongli symudol ar gyfer cynulleidfaoedd ar safleoedd treftadaeth. Pwyntiau allweddol papur Andrew fydd:
 

· Chwyldro’r ffôn clyfar a thueddiadau ymysg defnyddwyr

 
· Codau QR, Tagiau NFC, Realiti Estynedig a dehongli symudol arall

 
· Ymchwil i ddehongli symudol - profiad Llwybr Cenedlaethol y South Downs

 
· Gwneud i ddehongli wedi’i seilio ar y ffôn symudol weithio i bawb - canllawiau ymarferol

 
· Trafodaeth - gwersi a ddysgwyd o brosiectau diweddar a chwestiynau

 


Bydd crynodeb llawn ar gael cyn bo hir ar ein tudalen Siaradwyr.

No comments:

Post a Comment