Mae Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru yn eich gwahodd i fynychu cynhadledd yn Neuadd y Sir, Trefynwy.
Gorffennol Digidol 2013
Technolegau newydd ym
meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
20fed a 21ain
Chwefror 2013
Neuadd
y Sir, Trefynwy.
MAE COFRESTRU
NAWR AR AGOR
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae:
Justin
Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru – Anerchiad Agoriadol.
David
Penburthy a Dr Kate Roberts, Cadw – Teitl i'w gadarnhauMike Postons, 3Deep Media – Delweddu Arforol: prosiect Scapa Flow.
Matt Chilcott (Grŵp Budd Cymunedol CMC²) a Ray Howell (Canolfan De Cymru ar gyfer Ymchwil Hanesyddol a Rhyngddisgyblaethol) – Treftadaeth Ddigidol, Twristiaeth ac Ymchwil Hanesyddol.
Andrew Kerry Bedell (Ymgynghorwyr KB) - Ffonau Clyfar - ai dyma ddyfodol dehongli treftadaeth?
Dr Erik Champion (Prifysgol Aarhus) – A all y gorffennol ac a all hanes gael eu rhannu?
Gary Tuson (Archifdy Gwent) – Diogelu Digidol – Gwaith Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
Greg Downing (Stiwdios XRes) – Ffotograffiaeth gigapicsel.
Cost cofrestru am y ddau
ddiwrnod yw £55, gan gynnwys cinio a lluniaeth ar y ddau ddiwrnod.
Gan fod nifer y lleoedd yn
gyfyngedig, fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar
Cofrestrwch ar-lein: http://www.rcahmw.gov.uk/HI/CYM/Ein+Gwasanaethau/Estyn-allan/
No comments:
Post a Comment